300g yr un o stwnsh tatws Blas y Tir a stwnsh panas
75g bresych Savoy Blas y Tir wedi’i goginio a’r dorri’n fan neu ysgewyll wedi’i dorri’n fan
150g caws Perl Las
4 shibwnsyn Blas y Tir
2 llwy fwrdd parsli ffres wedi’i dorri’n fan
6 llwy fwrdd blawd wedi sesno gyda Halen Mon a phupur du
2 wy maes Cymreig
100g briwsion bara
3 llwy fwrdd Olew Blodyn Aur
Arddull
1. Rhowch y tatws, panas, bresych neu ysgewyll mewn powlen fawr a sesnwch gyda Halen Mon a phupur du. Cymysgwch yn dda.
2. Torrwch y shibwns yn fan ac ychwanegwch i’r fowlen ynghyd a’r parsli a’r caws wedi briwsioni. Cyfunwch yn ofalus a gwnewch 8 cacen gan roi yn yr oergell am 30munud I galedi.
3. Curwch yr wyau, rhowch y blawd a’r briwsion bara ar ddau blat arall wedyn rhowch y cacennau, un ar y tro yn y blawd gynta gan sicrhau eich bod yn gorchuddio’r gacen I gyd cyn ei roi yn yr wy ac yn olaf y briwsion bara.
4. Twymwch yr olew mewn padell ffrio dros wres gymhedrol a choginiwch y cacennau tan yn euraidd ac yn grimp. Gweinwch gyda chigoedd a phicls.